Os ydych chi eisiau gwneud brechdan iach cofiwch fod rhaid i chi gael llenwad iach ynddi!

Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. 

Mae Rob Baynham, Cydlynydd Chwaraeon Addysg Bellach Colegau Cymru, yn gofyn a ydyn ni, drwy ganolbwyntio ar blant a phobl hŷn, yn colli'r "darn yn y canol".

Mewn sgwrs am weledigaeth tymor hir ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, creu newid cynaliadwy a chael gwared ar y rhwystrau sy’n atal cymryd rhan, fe allech chi ofyn beth sydd gan hyn i’w wneud â gwneud brechdan iach? Nod y blog yma ydi herio pawb i feddwl ychydig bach mwy am y llenwad, neu, i fod yn fanylach, “y darn yn y canol”, yn yr achos yma, ieuenctid 16 i 19 oed.
    
Mae llawer o fentrau’r llywodraeth a Chwaraeon Cymru i wella gweithgarwch corfforol yn canolbwyntio ar blant iau a’r blynyddoedd cynnar – sy’n gwneud llawer o synnwyr. Mae eraill yn hybu gweithgareddau newydd i’r henoed – maes datblygu teilwng iawn.

Ond fy nghwestiwn i ydi: ydyn ni wedi dewis dwy dafell neis o fara granar, rhyw fenyn iach, isel mewn halen, i gael gwared ar golesterol ac wedyn ei llenwi gyda bag enfawr o sglodion seimllyd? Mewn geiriau eraill, ydyn ni’n rhoi gormod o ffocws ar ymyriadau ar gyfer y rhai ifanc iawn neu bobl hŷn gan anghofio’n anfwriadol am fanteision posib y bobl yn y canol?

Wrth weithio mewn sector lle mae 50,000 o bobl ifanc mewn addysg lawn amser, mae’n glir nad ydi rhai ymyriadau blaenorol, yn rhai tymor hir a byr, wedi bod yn gwbl llwyddiannus.

Er enghraifft, rydyn ni’n gwybod oddi wrth Arolwg AB Chwaraeon Cymru yn 2015 bod cymaint â 50% o ddysgwyr benywaidd mewn rhai pynciau galwedigaethol wedi nodi “dim gweithgarwch ar hyn o bryd” fel ymateb i’r arolwg. Wrth astudio’r niferoedd yma, gwelwn eu bod yn ymwneud â grŵp o 10,000 – 12,000 o fyfyrwyr ifanc benywaidd sydd, o bosib, yn gwbl anweithredol, er gwaethaf sawl menter ddiweddar mewn ysgolion a chwaraeon cymunedol. Felly sut mae newid y llenwad i’w wneud yn iachach? Neu beth ydi’r fantais o dargedu’r canol?              

Un dull tymor byr o weithredu fyddai creu gweithgaredd newydd yn canolbwyntio ar gael y myfyrwyr yma i fod yn fwy egnïol, heb edrych ar y darlun ehangach. Mae manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol amlwg i’w cael o gael y grwpiau a grybwyllir uchod i fod yn fwy egnïol, ond ydyn ni bob amser yn meddwl am beth sy’n digwydd nesaf?

Gan ddefnyddio myfyrwyr gofal plant fel esiampl, os nad ydyn nhw’n cymryd rhan mewn gweithgarwch, mae’n deg cymryd yn ganiataol y byddan nhw’n llai brwdfrydig am arwain gweithgarwch corfforol wrth weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar? Pe baen nhw ychydig yn fwy egnïol yn rheolaidd, a fydden nhw’n fwy awyddus i arwain gweithgarwch corfforol gyda rhai o’r plant maen nhw’n gweithio â nhw, ond heb ddigon o hyder / sgiliau i wneud hynny?

Hefyd, o roi iddyn nhw rywfaint o hyfforddiant sylfaenol mewn llythrennedd corfforol, hyfforddiant Playmaker neu Aml-Sgiliau’r Ddraig fel rhan o’u hastudiaethau (i gyd yn berthnasol, rhad a chyfeillgar i fyfyrwyr), a fyddai hyn yn gwella eu hyder nhw i arwain gweithgaredd newydd ac i fod yn fwy egnïol eu hunain?
              
Gellid cael y sgil-effeithiau canlynol i’r math yma o waith:
  • Mwy o weithgarwch ymhlith myfyrwyr AB benywaidd – potensial i fod yn fwy egnïol ac yn iachach wrth symud i gyflogaeth ac fel rhieni yn eu hugeiniau a’u tridegau.
  • Mwy o weithgarwch i blant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar / cyn-ysgol – plant mwy llythrennog yn gorfforol yn mynd i mewn i ysgolion cynradd.
  • Gweithlu mwy medrus ac egnïol mewn lleoliadau gofal plant – mwy o gyfleoedd am sesiynau gweithgarwch corfforol cynaliadwy mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Yn ychwanegol at yr esiamplau hyn, gallai targedu’r grŵp oedran yma effeithio ar feysydd eraill sy’n gysylltiedig â myfyrwyr gofal plant:
  • Os ydyn nhw’n mwynhau arwain gweithgareddau ar gyfer plant, a fydden nhw’n gallu datblygu’r sgiliau newydd yma i arwain gweithgareddau ar gyfer staff a rhieni mewn lleoliadau gofal plant hefyd?
  • Sut gellir eu hyfforddi i addasu gweithgareddau i’r amgylchedd sydd ar gael – defnyddio gofod heb fod yn draddodiadol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch ac eto, creu cyfleoedd newydd
  • Oes posib i’r broses yma annog pobl ifanc i sefydlu eu busnesau eu hunain hefyd, a gwersylloedd gwyliau a sesiynau gweithgarwch i’r blynyddoedd cynnar?
Mae grwpiau eraill o fyfyrwyr ar gyrsiau galwedigaethol mewn Addysg Bellach lle gallai ymyriadau tebyg gael sgil-effaith a gwella “addasrwydd ar gyfer cyflogaeth” a chael effaith ar y cleientiaid / cwsmeriaid ac ati y byddan nhw’n dod i gysylltiad â nhw yn y dyfodol. Mae Teithio a Thwristiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Therapi Gwallt a Harddwch a Lletygarwch i gyd yn esiamplau a allai gael effaith fawr.
    
Ar lefel fwy cyffredinol, gyda 50% o bobl ifanc 16 i 19 oed yn astudio mewn colegau AB yng Nghymru, mae yna hefyd nifer enfawr o gyflogeion y dyfodol a myfyrwyr AU y dyfodol yn y sector yma a fydd yn segur o bosib. Ac yn peri mwy o bryder efallai, bydd llawer o’r bobl ifanc yma’n rhieni hefyd yn y tymor canolig neu yn y dyfodol eithaf agos.
    
Mae ColegauCymru mewn partneriaeth â Cholegau AB a Chwaraeon Cymru, yn datblygu prosiectau newydd gan weithio ar y math yma o ymyriad gyda phobl ifanc. Y nod ydi creu gweithgaredd newydd sy’n cael sgil-effaith nid yn unig ar y gynulleidfa darged, ac nid dim ond am y 2 i 3 blynedd nesaf. Mae’r heriau’n parhau er hyn, gyda chyllid a phrosiectau’n tueddu i fod dros gylch o 2 i 3 blynedd a phan nad ydi chwaraeon a gweithgarwch corfforol bob amser yn brif flaenoriaeth mewn addysg o gymharu â rhifedd, llythrennedd a phrosesau arolygu.

Gan fynd yn ôl at y thema gofal plant, efallai bod angen mwy o berswâd?
  • Sut gallwn ni ddarbwyllo pobl ifanc bod gweithgarwch yn well opsiwn nag anweithgarwch, ac y bydd o help iddyn nhw mewn cyflogaeth yn y dyfodol, fel ei fod, yn raddol bach, yn dod yn syniad ganddyn nhw i wneud y dewis yma o ran ffordd o fyw?
  • Sut gall colegau a darparwyr cymwysterau gael eu cymell i ymgorffori gweithgarwch corfforol, llesiant ac arweinyddiaeth fel blaenoriaeth i bob dysgwr pan maen nhw’n wynebu heriau eraill o ran codi safonau addysgol?
  • Pa newid ar lefel strategol sydd ei angen yn genedlaethol ac a fyddai o help i wireddu manteision ymyriadau’n gysylltiedig â sgiliau cyflogaeth meddalach a datblygiad personol pobl ifanc 16 i 19 oed?
O ran y frechdan, o gael y llenwad yn iawn, does bosib y bydd popeth arall yn blasu ychydig yn well?

Rob Baynham


Nawr mae’n amser i chi roi gwybod i ni beth ydi’ch barn chi. Defnyddiwch yr adran Sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau.

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio 'Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs', cyfle i bawb yng Nghymru roi eu barn ar ddyfodol chwaraeon Cymru.

Am fwy o wybodaeth ac i roi eich barn ewch i www.chwaraeonafi.cymru

Comments

Popular posts from this blog

Dal ati i fod yn egnïol – beth sy’n gwneud y gwahaniaeth?

Mynd ati i annog rhedwyr newydd

Rhoi chwaraeon ar y Fwydlen: Pam mae chwaraeon fel Ysgewyll Brwsel