Os ydych chi eisiau gwneud brechdan iach cofiwch fod rhaid i chi gael llenwad iach ynddi!
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. Mae Rob Baynham , Cydlynydd Chwaraeon Addysg Bellach Colegau Cymru , yn gofyn a ydyn ni, drwy ganolbwyntio ar blant a phobl hŷn, yn colli'r "darn yn y canol". Mewn sgwrs am weledigaeth tymor hir ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, creu newid cynaliadwy a chael gwared ar y rhwystrau sy’n atal cymryd rhan, fe allech chi ofyn beth sydd gan hyn i’w wneud â gwneud brechdan iach? Nod y blog yma ydi herio pawb i feddwl ychydig bach mwy am y llenwad, neu, i fod yn fanylach, “y darn yn y canol”, yn yr achos yma, ieuenctid 16 i 19 oed. Mae llawer o fentrau’r llywodraeth a Chwaraeon Cymru i wella gweithgarwch corfforol yn canolbwyntio ar blant iau a’r blynyddoedd cynnar – sy’n gwneud llawer o synnwyr. Mae eraill yn hybu gweithgareddau newydd i’r henoed – maes datblygu teilwng iawn. Ond fy nghwestiwn i ydi: ydyn ni wedi dewis dwy dafell neis o fara granar