Posts

Showing posts from January, 2018

Os ydych chi eisiau gwneud brechdan iach cofiwch fod rhaid i chi gael llenwad iach ynddi!

Image
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru.  Mae Rob Baynham , Cydlynydd Chwaraeon Addysg Bellach Colegau Cymru , yn gofyn a ydyn ni, drwy ganolbwyntio ar blant a phobl hŷn, yn colli'r "darn yn y canol". Mewn sgwrs am weledigaeth tymor hir ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, creu newid cynaliadwy a chael gwared ar y rhwystrau sy’n atal cymryd rhan, fe allech chi ofyn beth sydd gan hyn i’w wneud â gwneud brechdan iach? Nod y blog yma ydi herio pawb i feddwl ychydig bach mwy am y llenwad, neu, i fod yn fanylach, “y darn yn y canol”, yn yr achos yma, ieuenctid 16 i 19 oed.      Mae llawer o fentrau’r llywodraeth a Chwaraeon Cymru i wella gweithgarwch corfforol yn canolbwyntio ar blant iau a’r blynyddoedd cynnar – sy’n gwneud llawer o synnwyr. Mae eraill yn hybu gweithgareddau newydd i’r henoed – maes datblygu teilwng iawn. Ond fy nghwestiwn i ydi: ydyn ni wedi dewis dwy dafell neis o fara granar

Ni a nhw – pwy sydd ar fai?

Image
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru.  Anne Adams King, Prif Weithredwr Beicio Cymru , yn credu bod cael gwared ar weithredu’n unigol mewn sefydliadau’n allweddol i ddatblygu dyfodol disglair i’r sector chwaraeon.  Rydyn ni’n cwyno’n aml am feddylfryd gweithio’n unigol ond ydyn ni i gyd yn gyfrifol am sefydlu a chefnogi’r ffordd honno o weithio? Mae gennym ni fel sector dirlun darniog o sefydliadau ac, yn y rhan fwyaf o achosion, dydyn ni ddim yn gallu ei newid. Ond, yn ein sefydliadau ni ein hunain, rydyn ni’n ymgorffori’r diwylliant yma drwy greu timau ac adrannau sydd â gwahanol amcanion ac sy’n cystadlu am adnoddau, gan wneud cydweithredu mewnol ac allanol yn gyfyngedig, oni bai ei fod o fudd i’r rhai yn y gwahanol adrannau unigol. Mae’n hawdd iawn llithro i greu hyn ac wedyn gadael iddyn nhw fodoli gyda gwahanol ddibenion neu swyddogaethau, heb wneud unrhyw les i’r sefydliad yn gyffredinol. Ry

Gweithredu Heddiw – Gwneud Digidol yn Flaenoriaeth i Chwaraeon

Image
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol  yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. Sut gall y chwyldro digidol drawsnewid chwaraeon? Mae amser yn gwbl hanfodol, meddai Helen Humphrey, Cadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Cymru .  Yn ôl ym mis Tachwedd 2014, cadeiriais Grŵp Cynghori Chwaraeon Cymru a luniodd, mewn partneriaeth â Future Foundation , adroddiad yn dwyn y teitl ‘gweithredu heddiwdros yfory egnïol’ . Roedd yn edrych ar dueddiadau defnyddwyr a allai gael effaith real ar y byd chwaraeon. Fwy na thair blynedd yn ddiweddarach, nid oes llawer o gynnydd arwyddocaol wedi bod yma yng Nghymru, ond mae technoleg yn datblygu’n gyflym iawn. Dangosodd arolwg diweddar ar aelodau Cymdeithas Chwaraeon Cymru nad yw digidol yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, ymhlith yr holl ofynion cystadleuol. Ond os na fyddwn ni’n dechrau gwneud newidiadau mawr yn fuan, fe fyddwn ni’n cael ein gadael ar ôl. Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw technoleg ddigidol ac mae h

Mynd ati i annog rhedwyr newydd

Image
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol  yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. Heddiw mae blogiwr Rhedeg Cymru Nicola Roylance yn esbonio sut mae rhedeg wedi newid ei bywyd a sut mae ei chymuned rhedeg yn ei chymell o hyd. Rydw i wedi bod yn rhedeg am ryw bedair blynedd erbyn hyn. Roeddwn i mewn lle gwael yn fy mywyd. Roeddwn i wedi ennill llawer o bwysau, doeddwn i ddim yn hapus iawn ac roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi wneud rhywbeth am y peth.  Fe gofrestrais i ar gyfer y Ras Fywyd 5k a lawrlwytho ap soffa i 5k. Doeddwn i heb redeg ers blynyddoedd ac roedd yn anodd iawn dechrau o’r dechrau. Fe es i allan ar fy mhen fy hun a gweddïo na fyddai unrhyw un yn fy ngweld i wrth i mi bwffian a thuchan ar hyd y llwybr beicio sy’n agos at fy nghartref i. Er hynny, gyda chefnogaeth fy ngŵr i, fe wnes i ddal ati ac, yn y diwedd, er na wnes i hynny yn y 9 wythnos oedd wedi’u nodi, fe wnes i gwblhau 5k. Eisiau gwthio fy hun bob amser, fe gofrestr