Mynd ati i annog rhedwyr newydd

Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru.

Heddiw mae blogiwr Rhedeg Cymru Nicola Roylance yn esbonio sut mae rhedeg wedi newid ei bywyd a sut mae ei chymuned rhedeg yn ei chymell o hyd.

Rydw i wedi bod yn rhedeg am ryw bedair blynedd erbyn hyn. Roeddwn i mewn lle gwael yn fy mywyd. Roeddwn i wedi ennill llawer o bwysau, doeddwn i ddim yn hapus iawn ac roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi wneud rhywbeth am y peth. Fe gofrestrais i ar gyfer y Ras Fywyd 5k a lawrlwytho ap soffa i 5k.

Doeddwn i heb redeg ers blynyddoedd ac roedd yn anodd iawn dechrau o’r dechrau. Fe es i allan ar fy mhen fy hun a gweddïo na fyddai unrhyw un yn fy ngweld i wrth i mi bwffian a thuchan ar hyd y llwybr beicio sy’n agos at fy nghartref i. Er hynny, gyda chefnogaeth fy ngŵr i, fe wnes i ddal ati ac, yn y diwedd, er na wnes i hynny yn y 9 wythnos oedd wedi’u nodi, fe wnes i gwblhau 5k.

Eisiau gwthio fy hun bob amser, fe gofrestrais i ar gyfer 10k a hyfforddi yn yr un ffordd drwy redeg/cerdded i gynyddu fy mhellter. Roedd amser ar fy nhraed yn allweddol. Ond ar ôl i mi gwblhau’r 10k, fe gollais i gymhelliant braidd, ac felly penderfynu ymuno â chlwb rhedeg lleol. Fe gadwodd y bobl yno fi ar y trac. Roedden nhw’n gefnogol heb feirniadu pa mor araf oeddwn i. Roedden nhw o help i mi ganolbwyntio ar fwynhau rhedeg ac mae hyn wedi bod yn hollbwysig i mi.

Rydw i wedi bod yn rhedeg ers pedair blynedd erbyn hyn ac rydw i’n gweld bod gan fwy a mwy o redwyr (a rhai sydd ddim yn rhedeg) obsesiwn gyda chyflymder ac amser. Y cwestiwn cyntaf gan eraill i sawl un sy’n gorffen ras yw “Beth oedd dy amser di?” ac rydw i’n teimlo bod hyn yn annheg ac yn gallu digalonni rhywun. Dydw i ddim yn gallu rhedeg yn gyflym ond dydi hynny ddim yn golygu nad ydi fy amser i mewn 5k o gymharu ag amser rhywun arall mewn 5k (sy’n llawer cyflymach efallai) wedi bod yn ymdrech fawr. Rydw i’n fwy o redwr pellter beth bynnag.

Wedi dweud hynny, y peth gorau am y gymuned rhedeg ydi’r bobl. Mae’r gyfeillgarwch, y gefnogaeth a’r brwdfrydedd yn enfawr a dyma pam rydw i’n cymryd rhan. Dyma pam rydw i’n credu, drwy fod yn gyfeillgar ac yn llawn anogaeth, ein bod ni’n gallu denu mwy o bobl at y gamp. Yn enwedig dechreuwyr, sy’n gorfod teimlo bod croeso iddyn nhw mewn unrhyw grŵp neu glwb, heb deimlo eu bod nhw’n faich i bawb arall. Fel camp, rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cefnogi ac yn dathlu pob cyflawniad, dim ots pa mor fach ydyn nhw.

I’r person sy’n rhedeg ei 10 munud cyntaf heb stopio o gwbl, neu sy’n rhedeg ei 5k, ei hanner marathon neu ei farathon cyntaf, heb ystyried faint o amser mae hynny wedi’i gymryd, mae’n gyflawniad aruthrol ac felly mae’n rhaid dathlu hynny.   

Felly beth am i bawb fod yn fwy parod i annog. Beth am ddathlu llinellau gorffen nid amseroedd gorffen a chofio mai’r cymryd rhan sy’n bwysig.

Mae gan chwaraeon le yn ein cymunedau ni, ac mae lle i bawb yn cymryd rhan hefyd yn sicr.

Nicola Roylance

Mwy o wybodaeth am Run Wales ar TwitterFacebook a’u gwefan

Nawr mae’n amser i chi roi gwybod i ni beth ydi’ch barn chi. Defnyddiwch yr adran Sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau.

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio 'Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs', cyfle i bawb yng Nghymru roi eu barn ar ddyfodol chwaraeon Cymru.

Am fwy o wybodaeth ac i roi eich barn ewch i www.chwaraeonafi.cymru

Comments

Popular posts from this blog

Dal ati i fod yn egnïol – beth sy’n gwneud y gwahaniaeth?

Rhoi chwaraeon ar y Fwydlen: Pam mae chwaraeon fel Ysgewyll Brwsel