Gweithredu Nawr i ddiogelu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. Heddiw rydyn ni’n gweld y cyntaf mewn cyfres o negeseuon gan Al Smith, Jono Byrne, Mark Upton (crëwyr ar y cyd myfastestmile) ac Owen Lewis o Chwaraeon Cymru. “Ghost of the Future, I fear you more than any spectre I have seen. But as I know your purpose is to do me good, and as I hope to live to be another man from what I was, I am prepared to bear you company, and do it with a thankful heart. Will you not speak to me?” Charles Dickens, A Christmas Carol Wrth i’r tymor ewyllys da nesáu ac wrth i ni baratoi ar gyfer treulio rhywfaint o amser cwbl haeddiannol gyda theulu a ffrindiau, mae’n amser da am funud i feddwl am beth rydyn ni’n ei wneud yn ein bywydau proffesiynol i ddarparu ar gyfer llesiant eraill. Wrth groesawu’r cyfle sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydyn ni’n ein gwahodd ein hunain i gael ein harwain gan fwriadau yn y dyfodol yn hytrac