Dal ati i fod yn egnïol – beth sy’n gwneud y gwahaniaeth?
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. Heddiw mae’r Margaret Whitehead yn trafod rôl llythrennedd corfforol mewn sicrhau bod pawb yn ffynnu. Beth yw gwir ystyr llythrennedd corfforol? Yn cael ei ddefnyddio’n eang yn y sector chwaraeon, mae’n mynd y tu hwnt i ddatblygu sgiliau. Y nod yw i bawb ysgwyddo cyfrifoldeb am fod yn egnïol ac mae hynny hefyd yn golygu canfod cymhelliant a hyder i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Yn bennaf, mae datblygu sgiliau’n deillio o heriau corfforol sydd wedi’u dewis yn dda. Mae cymhelliant a hyder, ar y llaw arall, yn dibynnu ar sut mae’r athro, yr hyfforddwr neu’r ymarferydd yn gweithio gyda’r unigolyn fel person. I ryddhau cymhelliant a hyder yn llwyddiannus, rhaid i unigolion deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a theimlo eu bod yn cael help ar eu siwrnai bersonol at wella. Yn gryno, gellir disgrifio llythrennedd corfforol fel: y cymhelliant, yr hyder,