Gweithredu Nawr i ddiogelu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru.


Heddiw rydyn ni’n gweld y cyntaf mewn cyfres o negeseuon gan Al Smith, Jono Byrne, Mark Upton (crëwyr ar y cyd myfastestmile) ac Owen Lewis o Chwaraeon Cymru.

“Ghost of the Future, I fear you more than any spectre I have seen. But as I know your purpose is to do me good, and as I hope to live to be another man from what I was, I am prepared to bear you company, and do it with a thankful heart. Will you not speak to me?” Charles Dickens, A Christmas Carol

Wrth i’r tymor ewyllys da nesáu ac wrth i ni baratoi ar gyfer treulio rhywfaint o amser cwbl haeddiannol gyda theulu a ffrindiau, mae’n amser da am funud i feddwl am beth rydyn ni’n ei wneud yn ein bywydau proffesiynol i ddarparu ar gyfer llesiant eraill. Wrth groesawu’r cyfle sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydyn ni’n ein gwahodd ein hunain i gael ein harwain gan fwriadau yn y dyfodol yn hytrach na chanolbwyntio ar lwyddiant y presennol yn unig, neu gael ein clymu wrth ffyrdd y gorffennol. Er mwyn bodloni’r dyheadau am Gymru fywiog, gydlynus, fwy cyfartal, iachach, gydnerth, lewyrchus a chyfrifol, bydd rhaid i ni ailddychmygu ein busnes o ran meddwl a gweithred. I Scrooge roedd hyn yn cynnwys gwahoddiad i ystyried gweld bywyd fel ei fusnes, yn hytrach na gweld busnes fel ei fywyd.

“Business!” cried the Ghost, wringing its hands again. "Mankind was my business; charity, mercy, forbearance, and benevolence, were, all, my business. The deals of my trade were but a drop of water in the comprehensive ocean of my business!” 

Cyn i ni frysio i farnu’r dyn cybyddlyd yma, efallai y dylen ni ystyried y gymhariaeth anghyfforddus rhwng sylw manwl Scrooge i gyfri’r ceiniogau a’n hoffter presennol ni o reoli yn ôl metrigau. Er bod lle, yn sicr, i fesur fel sail i’n camau gweithredu, pan rydyn ni’n gadael i hynny lywio ein cyfeiriad ni mewn bywyd, mae’n arwain at bob math o ganlyniadau anfwriadol …

“Darkness is cheap and Scrooge liked it.”

… er mwyn osgoi mynd i’r cyfeiriad yma, mae’n rhaid i ni ystyried nid yn unig beth rydyn ni’n ei fesur, ond i ba ddiben. Nid yw systemau mesur, dim ots pa mor helaeth ydyn nhw, wedi’u creu i ddelio ag ansicrwydd neu fân wahaniaethau, ond mae bodau dynol. Os ydyn ni am elwa o fywyd sy’n cael ei fyw yn dda, rhaid i ni sicrhau bod pobl wrth galon ein proses ni o wneud penderfyniadau ac mai dim ond y pethau sy’n bwysig ydyn ni’n eu mesur yn ein hymdrechion ni i wneud synnwyr o’r ddeinameg sydd ar waith yn ein byd ni.

Wrth i ni symud i’r Flwyddyn Newydd, byddwn yn edrych, mewn cyfres o erthyglau dilynol, ar beth fyddai’n ei olygu o roi sylw gwell i beth sy’n bwysig, yn hytrach na chaniatáu i ni ein hunain gael ein harwain gan beth allwn ni ei fesur.

 “I will honour Christmas in my heart, and try to keep it all the year. I will live in the Past, the Present, and the Future. The Spirits of all Three shall strive within me.  I will not shut out the lessons that they teach!’’

Al Smith, Jono Byrne, Mark Upton ac Owen Lewis

Nawr mae’n amser i chi roi gwybod i ni beth ydi’ch barn chi. Defnyddiwch yr adran Sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau.

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio 'Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs', cyfle i bawb yng Nghymru roi eu barn ar ddyfodol chwaraeon Cymru.


Am fwy o wybodaeth ac i roi eich barn ewch i www.chwaraeonafi.cymru

Comments

Popular posts from this blog

Dal ati i fod yn egnïol – beth sy’n gwneud y gwahaniaeth?

Mynd ati i annog rhedwyr newydd

Rhoi chwaraeon ar y Fwydlen: Pam mae chwaraeon fel Ysgewyll Brwsel