Dal ati i fod yn egnïol – beth sy’n gwneud y gwahaniaeth?

Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru.

Heddiw mae’r Margaret Whitehead yn trafod rôl llythrennedd corfforol mewn sicrhau bod pawb yn ffynnu.  

Beth yw gwir ystyr llythrennedd corfforol? Yn cael ei ddefnyddio’n eang yn y sector chwaraeon, mae’n mynd y tu hwnt i ddatblygu sgiliau. Y nod yw i bawb ysgwyddo cyfrifoldeb am fod yn egnïol ac mae hynny hefyd yn golygu canfod cymhelliant a hyder i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.

Yn bennaf, mae datblygu sgiliau’n deillio o heriau corfforol sydd wedi’u dewis yn dda. Mae cymhelliant a hyder, ar y llaw arall, yn dibynnu ar sut mae’r athro, yr hyfforddwr neu’r ymarferydd yn gweithio gyda’r unigolyn fel person. I ryddhau cymhelliant a hyder yn llwyddiannus, rhaid i unigolion deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a theimlo eu bod yn cael help ar eu siwrnai bersonol at wella.

Yn gryno, gellir disgrifio llythrennedd corfforol fel: y cymhelliant, yr hyder, y medrusrwydd corfforol, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i werthfawrogi ac ysgwyddo cyfrifoldeb am gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol am oes.

Felly pam mae angen datblygu llythrennedd corfforol? Mae’n syml. Gall y rhai mewn proffesiynau hybu gweithgarwch newid bywydau POB UN cyfranogwr er gwell. Wrth feithrin llythrennedd corfforol, mae gennym ni botensial enfawr i gyfrannu tuag at ffyniant pobl. Rydyn ni’n gwybod ei fod yn cynnig manteision eang i bawb, hen ac ifanc, abl a’r rhai ag anabledd. Gall ymwneud â gweithgarwch corfforol wella iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Yn fanylach, gall wneud y canlynol:
  • datblygu sgiliau symud, sy’n gallu rhoi boddhad a phleser      
  • agor amrywiaeth eang o opsiynau gweithgarwch sy’n gallu gwella iechyd corfforol 
  • hybu hunanhyder a hunan-barch ac felly gwella iechyd meddwl              
  • darparu cyfleoedd ar gyfer cael amser gydag eraill, a gydnabyddir fel gwella ansawdd bywyd
  • cynnig cyfleoedd ar gyfer cael amser yn yr awyr agored 
  • cyfrannu at ansawdd bywyd
Ond nid yw’n rhywbeth hawdd ei ddatblygu ar eich pen eich hun. Mae unigolion angen cefnogaeth gan eraill, nid dim ond mewn sefyllfa addysgu a hyfforddi, ond gan amrywiaeth eang o bobl, fel aelodau teulu, cydweithwyr, ffrindiau a chyflogwyr. Rhaid dathlu cyfranogiad rheolaidd, dyfalbarhad, penderfyniad a meistrolaeth ar bob lefel.

Gellir gwireddu’r gwerthoedd hyn yn fwy parod pan mae cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch yn eang, hygyrch a fforddiadwy. Mae’n gwneud gwahaniaeth pan mae croeso i gyfranogwyr a phan maent yn cael eu hadnabod oddi wrth eu henwau. Mae cysondeb o ran y rhai sy’n arwain y gweithgarwch yn help hefyd, fel bod modd teilwra’r gefnogaeth i fod yn addas i anghenion unigol.

Felly sut mae troi’r theori yn realiti? Y chwaraewyr allweddol sy’n gallu arwain newid yw athrawon, hyfforddwyr, hyfforddwyr mewn canolfannau hamdden, y rhai yn y proffesiynau meddygol a pharafeddygol, staff sy’n gofalu am y boblogaeth o oedolion hŷn, a phobl sy’n
gwneud penderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol. Cofiwch, y nod yw i bob unigolyn ysgwyddo cyfrifoldeb am fod yn egnïol.

Mae’n rhaid i’r lleoliad gweithgarwch fod yn briodol ac yn groesawus. Mae’n rhaid iddo gael ei reoli’n dda gyda’r gweithgarwch gorau posib ar waith a dim ciwio diangen. Mae pawb yn glir am bwrpas y dasg mewn llaw ac yn gweithio ar eu lefel eu hunain.
 
Yn ogystal â dewis deunydd priodol, mae rhai ffactorau pwysig eraill i’w hystyried:
  • Mae’r cyfarwyddyd yn canolbwyntio ar y cyfranogwr unigol yn hytrach na’r gweithgaredd
  • Defnyddir gwahaniaethu lle mae hynny’n bosib 
  • Mae’r cyfranogwyr yn cael eu hadnabod oddi wrth eu henwau 
  • Dangosir anogaeth, dealltwriaeth ac empathi tuag at y cyfranogwyr i gyd      
  • Nid yw’r cyfranogwyr yn cael eu gwneud i deimlo’n annigonol neu’n fethiant. Nid ydynt yn profi embaras neu fychanu 
  • Bernir y llwyddiant mewn perthynas â pherfformiad blaenorol, heb gymharu ag eraill        
  • Mae’r cyfranogwyr yn profi pleser a mwynhad llwyddiant               
  • Mae pob cyfranogwr yn gadael y sesiynau’n teimlo ‘Rydw i’n gallu gwneud hyn’, ‘Rydw i eisiau dod yn ôl am fwy’.
Y cwestiynau llosg ar gyfer y sector:

  • Sut gallwn ni sicrhau bod yr holl addysgu/hyfforddi’n creu cyfranogwyr sy’n dyheu am fwy o gyfleoedd gweithgarwch?
  • Sut gallwn ni gefnogi athrawon a hyfforddwyr i fabwysiadu ffocws sy’n rhoi lle mwy canolog i’r dysgwr?
  • Sut gallwn ni helpu unigolion i gynnal ymrwymiad i fod yn egnïol?

Margaret Whitehead 

Nawr mae’n amser i chi roi gwybod i ni beth ydi’ch barn chi. Defnyddiwch yr adran Sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau.

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio 'Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs', cyfle i bawb yng Nghymru roi eu barn ar ddyfodol chwaraeon Cymru.

Am fwy o wybodaeth ac i roi eich barn ewch i www.chwaraeonafi.cymru

Comments

Popular posts from this blog

Mynd ati i annog rhedwyr newydd

Rhoi chwaraeon ar y Fwydlen: Pam mae chwaraeon fel Ysgewyll Brwsel