Ni a nhw – pwy sydd ar fai?

Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. 

Anne Adams King, Prif Weithredwr Beicio Cymru, yn credu bod cael gwared ar weithredu’n unigol mewn sefydliadau’n allweddol i ddatblygu dyfodol disglair i’r sector chwaraeon. 

Rydyn ni’n cwyno’n aml am feddylfryd gweithio’n unigol ond ydyn ni i gyd yn gyfrifol am sefydlu a chefnogi’r ffordd honno o weithio? Mae gennym ni fel sector dirlun darniog o sefydliadau ac, yn y rhan fwyaf o achosion, dydyn ni ddim yn gallu ei newid. Ond, yn ein sefydliadau ni ein hunain, rydyn ni’n ymgorffori’r diwylliant yma drwy greu timau ac adrannau sydd â gwahanol amcanion ac sy’n cystadlu am adnoddau, gan wneud cydweithredu mewnol ac allanol yn gyfyngedig, oni bai ei fod o fudd i’r rhai yn y gwahanol adrannau unigol. Mae’n hawdd iawn llithro i greu hyn ac wedyn gadael iddyn nhw fodoli gyda gwahanol ddibenion neu swyddogaethau, heb wneud unrhyw les i’r sefydliad yn gyffredinol.

Rydyn ni’n derbyn mai rôl yr arweinwyr yw pennu naws a gwerthoedd eu sefydliadau, ond hefyd mae’n rhaid iddyn nhw ddeall y gwahaniaeth rhwng arweinyddiaeth a rheolaeth / cyflawni ac na ddylent annog diwylliant o dimau sy’n gwarchod eu meysydd eu hunain ar draul y sefydliad ehangach?

Fel yr ysgrifennodd Patrick Lencioni yn ei lyfr Silos, Politics and Turf Wars; “Silos – and the turf wars they enable – devastate organizations. They waste resources, kill productivity, and jeopardize the achievement of goals.” Mae’n mynd ymlaen i gynghori arweinwyr i gael gwared ar y rhain drwy fynd heibio i broblemau ymddygiad a rhoi sylw i’r materion cyd-destunol sydd wrth galon y sefydliad. I lawer o sefydliadau, mae hyn yn golygu nid yn unig bod rhaid i holl gyflogeion y cwmni rwyfo i’r un cyfeiriad, ond hefyd bod rhaid i’r timau gweithredol chwarae eu rhan a bod ar flaen y gad wrth lywio’r cwch. Mae’n hanfodol bod y tîm arweinyddiaeth yn cytuno ar weledigaeth gyffredin ac unedig ar gyfer y sefydliad. Rhaid wrth lefel fawr o gefnogaeth gan y tîm gweithredol a dealltwriaeth greiddiol yn y tîm arweinyddiaeth o nodau’r cwmni yn y tymor hir, yr amcanion adrannol a’r mentrau allweddol, cyn anfon ymlaen at y timau. Bydd tîm arweinyddiaeth unedig yn annog ymddiriedaeth, yn grymuso ac yn dod â rheolwyr allan o feddylfryd “fy adran i” ac i feddylfryd “ein sefydliad ni”.
                    
Er yn cydnabod ein bod ni sy’n arwain chwaraeon a’r rhai sy’n cymryd rhan fel gwirfoddolwyr neu’n gweithio yn y byd chwaraeon yn bobl gystadleuol o ran natur, mae gennym ni i gyd allu i gael gwared ar y gweithredu unigol yn ein sefydliadau ni drwy ofyn beth yw ein pwrpas ni’n gyffredinol, a beth sy’n ein gwneud ni’n berthnasol i’r bobl sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu hamdden gorfforol neu sydd eisiau dechrau gwneud hynny?

Ydi ein cwsmeriaid ni wir yn gosod eu hunain mewn categorïau syml fel ‘chwaraeon cymunedol’ neu ‘chwaraeon perfformiad’ neu a oes sbectrwm cymhlethach mae pobl yn symud ynddo ac yn galw i mewn iddo ac yn ei adael dros dro? Er enghraifft, mae beicwyr yn cymudo i’r gwaith efallai, yn beicio’n gymdeithasol gyda ffrindiau ac yn cystadlu mewn cystadlaethau fel beicwyr – a’r cyfan mewn un wythnos – felly oni ddylem ni fod yn creu’r amgylchedd priodol i bawb gymryd rhan, yn hytrach na’i gwneud yn hawdd i ni drwy greu adrannau unigol artiffisial ac wedyn cwyno nad yw pobl yn cydweithredu?

Felly beth am gael gwared ar y ‘ni a nhw’ a’r agwedd ‘nid fy ngwaith i ydi hynny’ drwy wneud y canlynol:
  • Creu nod cyffredin o gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol
  • Bod yn glir ynghylch pa berthnasoedd mewnol ac allanol fydd yn helpu i gyflawni’r pwrpas hwnnw
  • Darparu cymhelliant i bobl gydweithio                               
  • Creu diwylliant meddwl agored.    
Anne Adams-King

Nawr mae’n amser i chi roi gwybod i ni beth ydi’ch barn chi. Defnyddiwch yr adran Sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau.

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio 'Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs', cyfle i bawb yng Nghymru roi eu barn ar ddyfodol chwaraeon Cymru.

Am fwy o wybodaeth ac i roi eich barn ewch i www.chwaraeonafi.cymru

Comments

Popular posts from this blog

Dal ati i fod yn egnïol – beth sy’n gwneud y gwahaniaeth?

Mynd ati i annog rhedwyr newydd

Rhoi chwaraeon ar y Fwydlen: Pam mae chwaraeon fel Ysgewyll Brwsel