Gweithredu Heddiw – Gwneud Digidol yn Flaenoriaeth i Chwaraeon
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru.
Sut gall y chwyldro digidol drawsnewid chwaraeon? Mae amser yn gwbl hanfodol, meddai Helen Humphrey, Cadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Cymru.
Yn ôl ym mis
Tachwedd 2014, cadeiriais Grŵp Cynghori Chwaraeon Cymru a luniodd, mewn
partneriaeth â Future Foundation, adroddiad yn dwyn y teitl ‘gweithredu heddiwdros yfory egnïol’. Roedd yn edrych ar dueddiadau defnyddwyr a allai gael
effaith real ar y byd chwaraeon. Fwy na thair blynedd yn ddiweddarach, nid oes
llawer o gynnydd arwyddocaol wedi bod yma yng Nghymru, ond mae technoleg yn
datblygu’n gyflym iawn. Dangosodd arolwg diweddar ar aelodau Cymdeithas
Chwaraeon Cymru nad yw digidol yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, ymhlith yr holl
ofynion cystadleuol. Ond os na fyddwn ni’n dechrau gwneud newidiadau mawr yn
fuan, fe fyddwn ni’n cael ein gadael ar ôl.
Rydyn ni i gyd yn
gwybod pa mor bwysig yw technoleg ddigidol ac mae hynny’n cynyddu. Mae’n bur
debyg eich bod chi’n darllen hwn ar eich tabled neu eich ffôn clyfar, neu
efallai bod y rhai mwy blaengar ohonoch chi’n ei ddarllen ar eich oriawr. Mae
cysyniadau a oedd yn rhan o ffuglen wyddonol ddoe’n nwyddau prif ffrwd i
ddefnyddwyr heddiw. Ac mae’n debygol iawn y bydd y dechnoleg i’w gwisgo sydd
mor gyffredin erbyn hyn yn diflannu, neu o leiaf yn cael ei hategu gan nwyddau
i’w llyncu neu eu treulio – “pils digidol” sy’n rhyddhau signal bluetooth i ap
ar eich ffôn chi drwy glwt ar eich corff.
Mae’r data a
gynhyrchir gan y math yma o dechnoleg newydd yn ffenomenal ac mae’n gallu rhoi
gwybodaeth na welwyd ei thebyg o’r blaen i ddarparwyr am beth mae defnyddwyr ei
angen a pham. O ychwanegu hyn at botensial anhygoel ‘data mawr’, gallwn ddysgu
cymaint mwy am ein ‘cwsmeriaid’ ni a’i gwneud yn haws iddynt ddod o hyd i’r
gweithgaredd priodol ar eu cyfer hwy, a’i archebu.
Wrth i
ddatblygiadau technolegol ddigwydd yn gynt a chynt, mae defnyddwyr yn gofyn am
fwy a mwy ac yn brin o amser. Er mwyn i chwaraeon gystadlu gyda’r amrywiaeth o weithgareddau
eraill sydd ar gael, rhaid bod yn fwy sensitif i anghenion y gynulleidfa a
gweithredu’n fwy masnachol drwy osod y cyfranogwr yn gyntaf. Mae defnyddio data
a gwybodaeth sy’n cael eu casglu’n electronig yn rhoi pŵer i ni i addasu ein
cynnyrch a’n cynigion chwaraeon yn uniongyrchol i gyd-fynd â beth mae
cyfranogwyr unigol eisiau ei wneud nesaf.
Ers peth amser
nawr, mae Sport England wedi bod yn gweithio ar y cyd â’r Sefydliad Data Agored
ar OpenActive – menter genedlaethol fawr i agor y data cysylltiedig â
chyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, fel bod modd
eu gwthio i wefannau niferus i gwsmeriaid eu gweld, ac archebu ar-lein. Mae hyn
yn cael ei ystyried fel arloesi i chwaraeon ond mae wedi cael ei ddefnyddio gan
y diwydiannau adwerthu a hamdden ers bron i ugain mlynedd. Ond sut mae
chwaraeon yng Nghymru’n defnyddio’r newid hwn er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau
posib yn ei sgil? Beth ydyn ni’n ei wneud i elwa o fanteision y digidol?
Wel, mae
Chwaraeon Cymru wedi dechrau sganio’r gorwel ac wedi dechrau cynnal
trafodaethau gyda’r Sefydliad Data Agored yng Nghymru. Hefyd mae wedi datblygu
porthol sy’n golygu bod data am gyfleusterau chwaraeon ar gael yn hwylus i’r sector.
Mae posib defnyddio’r data yn y porthol yma ar gyfer gwneud penderfyniadau am
gyfleusterau a chynllunio ymlaen. Er gwaetha’r cynnydd yma, mae Chwaraeon
Cymru’n cydnabod bod ei siwrnai ddigidol yn ei dyddiau cynnar a bod angen
gwneud llawer mwy. Rydw i’n gwybod eu bod nhw’n gwrando ar bartneriaid er mwyn
helpu i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Bydd rhyddhau
potensial llawn y chwyldro digidol yn sylfaenol er mwyn trawsnewid sut mae pobl
yn ymwneud â chwaraeon ac i sicrhau bod ein cyrff chwaraeon ni’n parhau’n
addas. Gall technoleg alluogi i ni greu cymunedau chwaraeon newydd a phrofiadau
personol, darparu cynigion hyblyg fel bod pobl yn cael yr amrywiaeth a’r
newydd-deb y mae arnyn nhw eu hangen er mwyn cynnal eu diddordeb a galluogi i ni
ddefnyddio pŵer chwaraeon i greu profiadau y gellir eu rhannu – gan groesawu’r
duedd o ddangos y gorau ohonom ni ein hunain ar-lein.
Hefyd mae’n rhaid
i ni fod yn graffach am ofynion iechyd cwsmeriaid sydd â llawer mwy o wybodaeth
a rheolaeth. Gan fod labelau cliriach ar fwyd wedi gwella ein dealltwriaeth ni
o faeth, rhaid i chwaraeon ddatgan sut bydd gweithgareddau o fudd i ddarpar
gyfranogwyr – nid dim ond fel ateb cyflym i fod yn heini a cholli pwysau, ond
hefyd o ran manteision tymor hir ymrwymiad oes i les meddyliol a chorfforol
cynyddol.
Oherwydd mae’n
oes mewn chwaraeon y dyddiau hyn. Gyda phobl yn byw’n llawer hirach a gyda
bywydau mwy amrywiol, bydd hyn yn herio mwy a mwy ar y strwythurau chwaraeon
traddodiadol â’u ffocws ar oedran. Hefyd bydd rhaid i’n buddsoddiad ni mewn cyfleusterau
adlewyrchu hyn, i sicrhau nid yn unig bod mynediad i bawb, ond bod cyfleusterau’n
aml-bwrpas ac yn gallu darparu ar gyfer yr amrywiaeth o weithgareddau y mae
defnyddwyr o bob oedran a gallu eu heisiau.
Er bod hyn i gyd
yn brawf unigryw i ddarparwyr chwaraeon, mae hefyd yn agor byd o gyfleoedd a
photensial ar gyfer y rhai sy’n fodlon manteisio a mynd amdani. Ar wyneb y
graig wrth ddarparu chwaraeon, mae’r gofynion ar ein cyrff chwaraeon ni’n
golygu nad oes llawer o amser, gofod na dyhead am risg yn aml i ymgymryd â’r
meddwl yn greadigol sy’n angenrheidiol er mwyn datblygu datrysiadau arloesol,
ond mae’n rhaid dod o hyd i’r rhain os ydyn ni am greu sector cynaliadwy a
chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Rhaid i arloeswyr y byd chwaraeon yng Nghymru
wynebu’r her hon ac arwain o’r blaen er mwyn croesawu pŵer y digidol.
Yng Nghymdeithas
Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n haelodau i feithrin gallu a
chadernid y sector ond mae bwlch sgiliau yn y byd chwaraeon yng Nghymru o ran technoleg.
Dyma pam rydyn ni’n canolbwyntio ein hymdrechion ar waith hanfodol yn gwella
sgiliau busnes ac yn datblygu gwell perthnasoedd â diwydiant er mwyn i ni allu
gwneud defnydd o’i arbenigedd sylweddol.
Helen Humphrey
Nawr mae’n amser i chi roi gwybod i ni beth ydi’ch barn chi. Defnyddiwch yr adran Sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau.
Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio 'Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs', cyfle i bawb yng Nghymru roi eu barn ar ddyfodol chwaraeon Cymru.
Am fwy o wybodaeth ac i roi eich barn ewch i www.chwaraeonafi.cymru
Comments
Post a Comment