Datblygu dyfodol chwaraeon yng Nghymru

Ar gyfer Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs, rydyn ni wedi gofyn i amrywiaeth o arbenigwyr am eu meddyliau am ddyfodol Chwaraeon yng Nghymru.

Heddiw - ar Ddiwrnod Plant y Byd - mae'r Comisiynydd Plant Sally Holland yn amlinellu sut gallai dull 'Hawliau Plant' o weithredu wneud gwahaniaeth i'ch camp chi.

Oeddech chi’n gwybod bod plentyn neu berson ifanc, bob tro mae’n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn manteisio ar un o’r hawliau dynol unigryw y mae ganddo ef neu hi hawl iddynt o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC): Hawl y plentyn i orffwys a hamdden, cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden priodol i oedran y plentyn a chymryd rhan yn rhydd mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau?

Bydd llawer ohonoch chi sy’n darllen hwn yn ymwybodol iawn bod gan brofiad positif o chwaraeon fanteision amrywiol, gan gynnwys gwella iechyd corfforol a meddyliol, gwella lles a datblygu sgiliau cymdeithasol pwysig fel hyder, cymhelliant, arweinyddiaeth a gwaith tîm. Byddai hyn yn gwneud sawl hawl ychwanegol yn realiti, gan gynnwys yr hawl i fywyd ac i dyfu i fyny a bod yn iach a’r hawl i fod y gorau y gallwch chi fod.

Am y rhesymau hyn, rwyf yn falch bod Chwaraeon Cymru wedi nodi y dylai unrhyw sgyrsiau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru roi ystyriaeth benodol i gynnwys plant a phobl ifanc. Rwyf wir yn credu y bydd hyn yn arwain at wneud gwell penderfyniadau ac at sefydliadau cadarnach.

Fel Comisiynydd Plant Cymru rwyf wedi cael y fraint o weld rhai esiamplau rhagorol o fentrau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i fanteisio ar ei hawl i chwaraeon ac iechyd, gan gynnwys StreetGames a rhaglen Us Girls, clybiau Bwyd a Hwyl yr haf a llawer mwy. Ond mae’n glir bod gennym ni lawer o ffordd i fynd cyn i ni gael diwylliant chwaraeon cwbl gynhwysol lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn gallu chwarae ei ran ynddo.

Mae Rhaglen y Llysgenhadon Ifanc, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, yr Youth Sport Trust ac Awdurdodau Lleol, yn esiampl o sut gall sefydliadau gynnwys plant a phobl ifanc mewn agweddau eraill ar eu camp. Mae’r Llysgenhadon Ifanc nid yn unig yn fodelau rôl ond hefyd yn ymwneud â datblygu rhaglenni ac mae ganddynt gynrychiolydd plant a phobl ifanc ar Fwrdd Chwaraeon Cymru. Mae cyfleoedd o’r fath yn cydnabod yr hawl i fynegi safbwyntiau a chael clust i wrando ar faterion sy’n effeithio arnynt.

Mae galluogi plant i gymryd rhan fel hyn, y tu hwnt i gymryd rhan yn y gamp ei hun, yn gallu cael ei ystyried fel rhan o ddull hawliau plant o weithredu.

Mae ein dull hawliau plant o weithredu’n cynnwys pum elfen:

1. Ymgorffori hawliau plant yn holl bolisïau a diwylliant y sefydliad;             
2. Sicrhau cydraddoldeb i bob plentyn;
3. Grymuso plant drwy roi gwybodaeth iddynt am eu hawliau a’r sgiliau i fanteisio arnynt;
4. Creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan yn ystyrlon mewn datblygiadau;                     
5. Bod yn atebol i blant. 

Rwyf i wedi clywed yn uniongyrchol gan blant ac oedolion bod ymrwymiad sefydliadau i ddull hawliau plant o weithredu’n sicrhau manteision i blant ac i’r sefydliad ei hun, sy’n gallu mynd y tu hwnt i beth allai oedolion fod wedi’i gynhyrchu eu hunain. Ond peidiwch â chymryd fy ngair i am hyn; mae’r fideo a’r dogfennau sydd i’w gweld ar fy ngwefan i, gan gynnwys The Right Way, yn rhoi mwy o fanylion am sut gall dull hawliau plant o weithredu weithio’n ymarferol ac yn cyflwyno esiamplau real ohono ar waith.

O gadw hyn mewn cof, hoffwn gynnig her ... i unrhyw un sy’n darllen hwn a beth bynnag yw eich rôl mewn chwaraeon:

Rhowch amser i gael gwybod mwy am ddul hawliau plant o weithredu a sicrhau cyfle i drafod y cwestiwn hwn gyda chydweithwyr a/neu blant neu bobl ifanc rydych chi’n gweithio â hwy: 

Sut gallai ein camp, clwb/grŵp, sefydliad newid pe baem yn mabwysiadu dull hawliau plant o weithredu a beth fyddai’r manteision?

Ar eich marc, byddwch yn barod, ewch!

Yr Athro Sally Holland
Hawlfraint Comisiynydd Plant Cymru 

Nawr mae'n amser i chi roi gwybod i ni beth rydych chi'n ei feddwl. Defnyddiwch yr adran Sylwadau isod i roi gwybod i ni sut rydych chi'n meddwl y gallai eich camp, clwb/grŵp neu sefydliad newid pe baech yn defnyddio dull hawliau plant o weithredu.

Comments

Popular posts from this blog

Dal ati i fod yn egnïol – beth sy’n gwneud y gwahaniaeth?

Mynd ati i annog rhedwyr newydd

Rhoi chwaraeon ar y Fwydlen: Pam mae chwaraeon fel Ysgewyll Brwsel